English

Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a'r Fro

Family

Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a'r Fro

Croeso i Wefan Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a'r Fro sy'n cefnogi anghenion teuluoedd agored i niwed mewn argyfwng ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydyn ni'n helpu teuluoedd a phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau sy'n cael effaith ar les plant.

Mae'r cynllun, a sefydlwyd yn 2010 fel partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Bro Morgannwg a'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni'n helpu rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy eu cefnogi i aros gyda'i gilydd drwy eu galluogi i gymryd camau cadarnhaol i wella eu bywydau. Trwy raglenni ymroddedig fel CRAFT mae'r tîm proffesiynol yn gweithio gyda theuluoedd i gydnabod y newidiadau sydd eu hangen arnynt i gymryd rheolaeth o'u bywydau unwaith eto.

Bydd y wefan hon yn eich helpu i ddeall ein gwasanaeth ac yn dangos i chi sut y gallwch gael rhagor o wybodaeth o ran manteisio ar ein gwasanaethau.

Lawrlwytho ein taflenni:

Yr hyn a ddywed ein Defnyddwyr Gwasanaeth

"Pe baech yn clonio'r Therapydd dyna fyddai gwasanaeth a gofal o'r radd flaenaf."
Tad ar y ffurflen gwerthuso'r gwasanaeth.

"Mae wedi fy atgoffa i o bwy ydw i - heb y gwasanaeth ni fyddwn i lle ydw i heddiw."
Mam ar y ffurflen gwerthuso'r gwasanaeth.

"Mae amser ac ymdrech y therapydd wedi unioni llawer o'r problemau .... Rwy'n llawer llai dibynnol ar eraill ... Rwyf wedi cyflawni gymaint."
Mam mewn llythyr i'r gwasanaeth.

"Roedd y Therapydd yn dda am wrando arnon ni .... mae ein perthynas nawr yn llawer cryfach a bydden i'n argymell y gwasanaeth i unrhyw un yn fy sefyllfa i."
Rhieni mewn cyfarfod grŵp craidd.

"rydyn ni'n gwybod yr hyn a ddisgwylir gennym, fe wnaeth y therapydd esbonio'r peth yn dda iawn."
Rhieni mewn cyfarfod grŵp craidd

"Mae'r gwasanaeth wedi fy helpu i fod y person yr ydw i eisiau bod, nid y person ydw i, ar gyffuriau, yn anobeithiol, wedi colli fy mhlant a phopeth ..... Rwy'n meddwl fod y gwasanaeth yn grêt."
Mam ar y ffurflen gwerthuso'r gwasanaeth.

Hyfforddiant a Chymorth

Rydyn ni'n gweithio gyda theuluoedd trwy atgyfeiriadau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol lle bo plentyn wedi'i effeithio, neu'n uniongyrchol a theuluoedd sydd eisiau cael help a chymorth i rywun sy'n annwyl iddynt trwy ein Rhaglen CRAFT.

Ein nod yw helpu teuluoedd i greu lle diogel a chefnogol i blant, lle mae rhieni a gofalwyr yn blaenoriaethu anghenion y plant ac yn canolbwyntio ar fywyd y teulu a'u cyfrifoldebau fel rhiant.

Sut yr ydym ni'n gweithio gyda theuluoedd i wneud hyn:

  • Gyda'n gilydd byddwn yn edrych ar y cryfderau a'r adnoddau sydd gennych chi a'ch teulu'n barod. Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed am y pethau da yn ogystal a'r pethau sydd o bosib yn achosi anawsterau i chi.
  • Byddwn yn gofyn i chi a'ch teulu pa newidiadau yr ydych chi'n teimlo sydd angen i chi eu gwneud. Rydyn ni'n eich helpu i feddwl beth yw'r newidiadau hyn, a sut i'w gwneud. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i feddwl am strategaethau newydd neu ymarfer sgiliau newydd a all fod o gymorth.
  • Rydyn ni'n gweithio'n hyblyg i gynnig gwasanaeth sy'n cyd-fynd ag anghenion ac ymrwymiadau eich teulu, fel y gallwn fod yno ar adegau sy'n ddefnyddiol i chi.
  • Rydyn ni'n ceisio gweithio gyda phob aelod o'ch teulu am o leiaf tri diwrnod, hyd at uchafswm o chwe wythnos. Byddwn yn eich helpu i osod a chyflawni nodau realistig a synhwyrol a fydd yn eich galluogi i wneud newidiadau go iawn a chadarnhaol yn eich bywyd.
  • Byddwn yn adrodd yn ôl i Weithiwr Cymdeithasol y plentyn yn rheolaidd, yn rhoi'r diweddaraf iddynt o ran sut mae ein gwaith gyda'n gilydd yn dod ymlaen ac unrhyw newidiadau yr ydych wedi'u gwneud.  

 

Rhaglen CRAFT

Nid yn unig y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar y person yr ydych yn ei garu, ond mae hefyd yn effeithio arnoch chi.

Mae'n gallu bod yn anodd iawn gweld rhywun yr ydych yn eich garu yn dioddef gyda phroblem cyffuriau neu alcohol. Beth ddylech chi ei wneud am y gorau? Beth ddylech chi ei ddweud, sut ydych chi'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanoch chi eich hun ar yr un pryd? Dyma'r cwestiynau sydd gan bobl neu y maen nhw'n cael trafferth eu hateb - a dyma lle'r ydyn ni'n gallu helpu.

Mae'r Rhaglen CRAFT yn rhaglen therapiwtig wedi'i chynllunio'n arbennig i aelodau'r teulu, partneriaid a ffrindiau. Rydym wedi ymrwymo i helpu teuluoedd a ffrindiau i wneud newidiadau cadarnhaol iddyn nhw eu hunain a'r rhai sy'n annwyl iddynt sy'n cael trafferth gyda'u problemau camddefnyddio sylweddau.

Mae'r rhaglen wedi cael ei gwerthuso'n eang ac mae'r canlyniadau'n dangos y gall helpu aelodau o'r teulu i wella eu bywydau eu hunain a helpu'r rhai sy'n annwyl iddynt i leihau, neu hyd yn oed roi'r gorau i gamddefnyddio sylweddau drwy eu helpu i fanteisio ar wasanaeth cymorth priodol.

Mae teuluoedd sydd wedi manteisio ar CRAFT wedi nodi'r canlynol amdani:

  • Perthynas hapusach gyda'r sawl y maen nhw'n ei garu
  • Y teulu'n cydfyw yn well
  • Llai o wrthdaro, dicter neu iselder
  • Dealltwriaeth well o'i gilydd

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy lawrlwytho'r Daflen CRAFT

Os ydych chi'n meddwl y gallech elwa o'r rhaglen hon ac eisiau trefnu lle neu gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a ni'n uniongyrchol ar:

 

Adnoddau

Gallech gael rhagor o wybodaeth am waith Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a'r Fro drwy lawrlwytho ein taflenni:


Gallech hefyd gael rhagor o gyngor a chymorth drwy gysylltu ag unrhyw un o'n sefydliadau partner:

 

Cysylltu â ni

Os hoffech siarad a'r tîm neu gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a gynigiwn cysylltwch a ni drwy unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • Ffôn: 029 2087 3450
  • e-bost: ifst@caerdydd.gov.uk
  • Ysgrifennwch at:

    Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a'r Fro
    Depo Alps
    Quarry Road
    Gwenfo
    CF5 6AA

 

Polisi Preifatrwydd Atgyfnerthu Cymunedol a Hyfforddi Teuluoedd (CRAFT)


Mae CRAFT yn wasanaeth sy'n cael ei reoli gan y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ac a gynhelir mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Caerdydd a Chyngor Sir Bro Morgannwg. Mae CRAFT wedi’i ariannu gan grant gan Fwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro (GIG Cymru). At ddibenion casglu data, Cyngor Caerdydd yw’r Rheolwr Data.
Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae CRAFT yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn atgyfeirio i’n gwasanaeth.


Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae Craft yn casglu'r data canlynol:

  • Gwybodaeth adnabod bersonol; enw, cyfeiriad cartref, cod post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, dyddiad geni a tharddiad hiliol/ethnig.
  • Gwybodaeth adnabod bersonol ar gyfer aelodau o'r teulu sy'n rhan o'r broses atgyfeirio ac ymyrryd.
  • Recordiadau o'n sesiynau (lle rydych wedi rhoi eich caniatâd ymlaen llaw)
  • Manylion cyswllt asiantaethau sy'n ymwneud â'r atgyfeiriwr a'r teulu ar hyn o bryd.

Sut y byddwn yn defnyddio eich data?
Cesglir eich manylion at ddibenion:

  • Hwyluso hyfforddiant atgyfnerthu cymunedol
  • Cynnig sesiynau cymorth i deuluoedd.
  • Adroddiadau Sicrwydd Ansawdd
  • Defnyddir sesiynau wedi'u recordio ar gyfer hyfforddi ein staff drwy glinigydd CRAFT achrededig – nid yw cyfranogiad yn dibynnu ar ganiatâd
  • Cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol y rhaglen gychwynnol a’r cyfnod adolygu 12 mis.
  • Eich cyfeirio at y gwasanaeth cymorth priodol ac asiantaethau partner i sicrhau bod mesurau diogelu amserol ac effeithiol ar waith.
  • Darparu data dienw i gyllidwr asiantaethau partner; Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro (GIG Cymru).

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Mae eich data'n ddienw pan gaiff ei rannu â Bwrdd Cynllunio Ardal ein cyllidwyr ar gyfer Caerdydd a'r Fro (GIG Cymru) a'i ddefnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig ac i sicrhau cyllid pellach.
Mae eich data hefyd yn ddienw pan gaiff ei gyflwyno at ddibenion Ansawdd a Hyfforddiant gyda chorff dyfarnu Prifysgol New Mexico.   

Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych chi'n darparu’r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i CRAFT. Rydym yn casglu data a phrosesu data pan:

  • Rydych chi neu drydydd parti (gyda'ch caniatâd) yn cysylltu'n uniongyrchol â CRAFT ac yn cwblhau ffurflen atgyfeirio ac asesu.
  • Rydych chi'n cymryd rhan mewn ymyriad CRAFT 1-i-1 neu grŵp.
  • Byddwch yn cwblhau holiadur cleient CRAFT yn wirfoddol ar ôl cwblhau'r ymyriad.
  • Rydych chi’n darparu manylion adolygu o'ch gwirfodd mewn sesiynau adolygu 1, 3, 6 a 12 mis.

Sut byddwn yn storio eich data?
Bydd Craft yn storio data electronig gan ddefnyddio systemau a pholisïau mewnol Cyngor Caerdydd.
Bydd CRAFT yn cadw eich ffeil achos sy'n cynnwys nodiadau atgyfeirio ac achos o sesiynau a chyfarfodydd adolygu am 12 mis ar ôl cwblhau'r ymyriad. Unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben byddwn yn dileu eich data drwy ddinistrio'r holl gofnodion yn ddiogel oni bai bod protocolau diogelu wedi'u rhoi ar waith, lle bydd cofnodion yn cael eu storio'n ddiogel am 35 mlynedd (Adran 47 a Chofrestru Amddiffyn Plant).

Sail gyfreithiol
Yn gyffredinol, ar un o’r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:

  • Cydsyniad - Mae angen hwn er mwyn prosesu eich gwybodaeth ac i gynnig y cymorth i chi rydych wedi cofrestru ar ei gyfer
  • Contract – Efallai y bydd angen eich data dienw i gyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol gyda Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro (GIG Cymru).
  • Rhwymedigaeth gyfreithiol – Efallai y bydd angen eich data er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol, yn enwedig mewn perthynas â phryderon diogelu

Os dibynnir ar eich caniatâd ar gyfer prosesu data personol, mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â craft@caerdydd.gov.uk
Prosesir yr holl ddata yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai CRAFT wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:


Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i gysylltu â Chyngor Caerdydd a gofyn am gopïau o'ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu prosesu eich data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i wrthod prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd wrthod prosesu eich data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, o dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb ichi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein e-bost: HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk

Ffoniwch ni ar: 029 20873244

Neu ysgrifennwch atom:  Llywodraethu Gwybodaeth a Rheoli Risg, Cyngor Caerdydd, Ystafell 357, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Gall newidiadau i'n Hysbysiad Preifatrwydd ddigwydd ar unrhyw adeg er mwyn adlewyrchu diweddariadau mewn deddfwriaeth, arfer gorau a chanllawiau presennol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Cyhoeddir y newidiadau hyn ar ein gwefan. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 18 Awst 2020.

Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd llawn.

Polisi Preifatrwydd Microsoft Teams

Polisi Preifatrwydd y Bwrdd Iechyd lle y bo'n briodol

Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd CRAFT neu os hoffech dynnu eich caniatâd yn ôl, mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch ni ar: craft@caerdydd.gov.uk

Ffoniwch ni: 029 2087 3450
Neu ysgrifennwch atom yn: CRAFT -- Cyngor Caerdydd, Yr Alpau, Quarry Road, Gwenfô, Caerdydd, CF5 6AA.

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad yw CRAFT wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio 0303 123 1113.   

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r:
Swyddog Diogelu Data
Ystafell 357 Neuadd y Sir / Room 357 County Hall
Caerdydd / Cardiff
CF10 4UW
Ffôn / Tel: 029 20873244
E-bost / E-mail: diogeludata@caerdydd.gov.uk    

 

Partnership logos Cyngor Caerdydd Vale of Glamorgan Council The Welsh Government Cardiff and Vale University Health Board